Geraint Lövgreen - Yma Wyf Innau i Fod
HTML-код
- Опубликовано: 4 фев 2025
- Geraint Lovgreen yn perfformio ‘Yma Wyf Innau i Fod’ ar lwyfan Noson Lawen yng Nghaernarfon.
Geraint Lovgreen performing ‘Yma Wyf Innau i Fod’ on the Noson Lawen stage in Caernarfon.
Absolutely lovely, even though I can't understand it, I still loved the sounds and melodies. Best wishes, Marissa, Scotland.
"Yma wyf finnau i fod"
"Here I am supposed to be"
Lyrics:
Mae 'na ddau yn mynd i ryfel tu allan i'r Pen-deitch
Tra bo'r afon dal i chwydu'i phoen i'r aber,
Mae sŵn poteli'n chwalu fel priodas hyd y lôn,
A neb yn meddwl gofyn pam fel arfer;
Mae 'na ferched heb fodrwyau yn siarad celwydd noeth,
Mae'r dref fel tae 'di'i mwrdro ar ei hyd;
Ond mae'r lleuad dal i wenu ar hen strydoedd budur hon
Fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
Dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.
Mae 'na ddiwrnod newydd arall yn sleifio lawr Stryd Llyn
Ac mae hogiau'r ochor bella'n dod yn heidiau,
A dod y maen nhw i gwyno nad oes unlle gwell i fynd
Cyn mynd i'r Harp i yfed efo'u teidiau.
Does gynnon nhw ddim breuddwyd na 'chwaith yr un llong wen,
Ond mae gynnon nhw ei gilydd reit o'r crud,
Ac mae'r haul yn dal i godi calonnau'r dref fach hon
Fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
Dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.
A'r hogia llygaid barcud, efo'u sŵn a'u rhegi mawr,
Rhain sy' piau pafin pob un stryd,
Ond yr rhain a'u hiaith eu hunain sy'n cadw'r dref yn fyw,
Fel pob tref ddifyr arall yn y byd.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
Dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.
Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
Dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.
Da iawn
Mor fendigedig X
Wrth fy modd efo'r gan yma.
Hwn di'r can gora fi a'r y funud
Lovely melody but lyrics seem so depressing.